Ni allaf weld y cyfrifiadur yn iawn

Oni fyddwch yn defnyddio monitor mawr, mae’n gallu bod yn anodd gweld sgriniau cyfrifiadurol.

Mae amryw ffyrdd o hwyluso gweld monitor, o’r gosodiadau o fewn system weithredu cyfrifiadur i atebion meddalwedd a chaledwedd arbenigol.

Yn achos pobl gyda nam ar eu golwg, mae technolegau cynorthwyol o fewn cyfrifiaduron wedi datblygu’n sylweddol wrth gyflwyno systemau gweithredu newydd Mac a Windows. Mae cyfrifiaduron yn cynnwys darllenwyr sgrin ac adnoddau chwyddo, a meddalwedd a chaledwedd masnachol ac amgen ar gael (llwytho am ddim).